Siarcol Bodfari

Cysylltwch â

Rod Waterfield
Siarcol Bodfari,
The Warren, Bodfari,
Dinbych, LL16 4DT

Ffôn: 01745 710626
Symudol: 07711 472033
E-bost: wr.waterfield@virgin.net

Partner allweddol ym mhrosiect Coetir Clwyd, yn hyrwyddo menter yr arwydd cynnyrch coetir treftadaeth.

Mae Siarcol Bodfari yn gweithredu ar hugain hectar (hanner can erw) o goetir sy'n perthyn iddynt yn Nyffryn Chwiler yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, yng nghalon Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac ar bwys llwybr troed hirbell Clawdd Offa.

Maent yn gynhyrchwyr siarcol, boncyffion tanwydd a choed tân o ffynonellau coetir lleol.

Maent hefyd yn grefftwyr prysgwydd gan wneud pethau fel clwydi ac ysgubau ac mae ganddynt feithrinfa goed sy'n cynnig rhywogaethau coed pren caled brodorol a dyfwyd o had o ffynonellau lleol.

Yn ogystal â rheoli coetiroedd bach, bydd Siarcol Bodfari yn prynu pren caled o waith teneuo coetiroedd lleol.

Mae Siarcol Bodfari hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio ac adeiladu llefydd chwarae a chodi adeileddau helyg byw.

Caiff cyrsiau hyfforddi eu darparu ar reoli coetiroedd bach ac ychwanegu gwerth at goed.

Website: Valid XHTML and CSS For Accessibility | Web Design: Worldspan Creative